Arestio dyn am heclo'r Tywysog Andrew yn ystod gorymdaith frenhinol
12/09/2022
Arestio dyn am heclo'r Tywysog Andrew yn ystod gorymdaith frenhinol
Mae dyn wedi’i arestio ar ôl heclo’r Tywysog Andrew wrth i arch y Frenhines Elizabeth II deithio o Balas Holyrood i Gadeirlan St Giles yng Nghaeredin ddydd Llun.
Roedd y teulu brenhinol yn cerdded y tu ôl i arch y Frenhines pan waeddodd y dyn: "Andrew, you're a sick old man".
Cafodd y dyn ei dynnu o’r dyrfa a’i arestio gan yr heddlu.
Dywedodd Heddlu’r Alban: “Cafodd dyn 22 oed ei arestio mewn cyswllt â thor heddwch ar stryd y Royal Mile am tua 14.50 heddiw.”
Yn gynharach yn y dydd, cafodd dynes 22 oed ei chyhuddo o dorri'r heddwch yn ystod Cyhoeddiad Derbyn y Brenin Siarl III yng Nghaeredin ddydd Sul. Bydd hi’n ymddangos gerbron Llys Siryf Caeredin.