Posiblrwydd y bydd 'cyllideb frys' wedi angladd y Frenhines Elizabeth II

Mae disgwyl y bydd Aelodau Seneddol yn San Steffan yn cael eu galw yn ôl i drafod "cyllideb frys" i fynd i'r afael â'r argyfwng costau byw, wedi angladd Y Frenhines Elizabeth II.
Wrth gyhoeddi ei chynllun ynni newydd wythnos diwethaf, dywedodd y Prif Weinidog, Liz Truss, dweud bod "digwyddiad yn ymwneud â chyllid" ar y gorwel.
Cafodd gweithgareddau'r Senedd yn San Steffan eu gohirio yn sgil marwolaeth y Frenhines, ond yn ôl adroddiadau, gallai ASau ddychwelyd yn dilyn ei hangladd ddydd Llun.
Mae disgwyl i ASau drafod cynlluniau economaidd Llywodraeth y DU, a'r dyfalu ydy y bydd Ms Truss yn cyhoeddi gostyngiad mewn trethi.
Darllenwch fwy yma.