Rhybudd melyn am law trwm i rannau o ogledd Cymru
12/09/2022
Mae rhybudd melyn am law trwm mewn grym ar gyfer rannau o ogledd Gymru.
Mae'r rhybudd gan y Swyddfa Dywydd mewn grym rhwng 00:00 a 11.00 ddydd Llun, gyda disgwyl y gallai hyd at 20-40mm o law ddisgyn. Ond fe allai 60-80mm o law ddisgyn mewn mannau o fewn cyfnod o dair i chwe awr.
5 o siroedd yng ngogledd Cymru sydd yn cael eu heffeithio sef Conwy, Dinbych, Fflint, Gwynedd ac Ynys Môn.
Gallai cartrefi a busnesau gael eu difrodi yn sgil llifogydd ac mae yna rybuddion am golli pŵer meddai'r Swyddfa Dywydd. .
Maen nhw hefyd yn rhybuddio am amodau gyrru gwael ac y gallai hyn effeithio ar wasanaethau trên a bws.