Newyddion S4C

Teyrngedau Senedd Cymru i'r Frenhines Elizabeth II

11/09/2022
Senedd Cymru - Y Frenhines Elizabeth

Mae Senedd Cymru wedi rhoi teyrngedau i'r Frenhines Elizabeth II mewn cyfarfod arbennig prin ddydd Sul.

Cyhoeddodd Llywydd Senedd Cymru, Elin Jones AS, ddydd Gwener y byddai'r Senedd yn cael ei adalw ar gyfer sesiwn arbennig.

Yn sgil marwolaeth y Frenhines, mae holl weithgareddau gwleidyddol y Senedd wedi eu gohirio yn ystod y cyfnod o alaru cenedlaethol, a bydd yr adeilad yn parhau ar gau i'r cyhoedd tan ar ôl yr Angladd Gwladol. 

Bydd yr angladd yn cael ei chynnal ar ddydd Llun, 19 Medi, ac mae'r Brenin Charles wedi cyhoeddi y bydd Gŵyl y Banc yn cael ei gynnal ar y diwrnod.

Dywedodd Prif Weinidog Cymru, Mark Drakeford, fod y ffaith i'r Frenhines benodi Prif Weinidog newydd yn nyddiau olaf ei bywyd yn arwydd o'i "dyletswydd" i'w gwlad.

Dywedodd arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig, Andrew RT Davies, ei bod hi'n debygol na fydd unrhyw un yn gweld teyrnasiad o'r fath yn eu hoes a dywedodd fod gan y Frenhines y gallu unigryw "i ganolbwyntio ar yr unigolyn".

Dywedodd arweinydd Plaid Cymru, Adam Price, fod pawb yn nodi marwolaeth y Frenhines "mewn ffordd wahanol", gan gyfeirio at "sefydlogrwydd" y Frenhines drwy gyfnodau ansicr.

Ychwanegodd Jane Dodds, arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol Cymreig fod Elizabeth II yn "arwydd o'n hanes ar y cyd" a'i bod wedi "adlewyrchu teimladau'r genedl" yn ystod pandemig Covid-19 a'i bod yn "ffrind i Gymru".

Mae baneri wedi eu gostwng y tu allan i holl adeiladau'r Senedd yng Nghaerdydd a Bae Colwyn. 

Mae arch y Frenhines wedi cael ei chludo o Balmoral i Balas Holyrood yng Nghaeredin ddydd Sul.

Mae disgwyl i'r Brenin Charles III gyfarfod gydag Ysgrifennydd Cyffredinol y Gymanwlad yn ystod y dydd.

Cafodd proclamasiynau eu darllen yng Nghymru, Yr Alban a Gogledd Iwerddon i gyhoeddi Charles III fel y Brenin newydd.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.