Newyddion S4C

Cyhoeddiad y Brenin am Dywysog Cymru yn hollti barn

10/09/2022

Cyhoeddiad y Brenin am Dywysog Cymru yn hollti barn

Mae cyhoeddiad y Brenin Charles III fod y Tywysog William i etifeddu teitl Tywysog Cymru wedi hollti barn a chodi gwrychyn nifer yng Nghymru. 

Yn sgil y cyhoeddiad ddydd Gwener, mae deiseb wedi ei chreu i "ddod â'r teitl "Tywysog Cymru" i ben allan o barch i Gymru" ac hyd yma, mae miloedd o bobl wedi ei harwyddo. 

Dywed y ddeiseb nad oes gan "Dywysogion Saesneg Cymru unrhyw gysylltiad go iawn â'r wlad" a bod y "teitl yn parhau yn sarhad i Gymru a'n symbol o ormes hanesyddol" sydd yn "tanseilio statws Cymru fel gwlad a chenedl."

Dywedodd Elfed Wyn ap Elwyn o Drawsfynydd ei bod hi'n "warthus i ddeud gwir bod y teitl 'ma dal yn cael ei ddefnyddio heddiw.

"Dwi'n meddwl bod o'n niwad seicolegol fod o'n ryw fath o ddathliad o'r gormes sydd wedi digwydd ers i Gymru gael ei goncro, fod y teitl wedyn yn ryw gyflwyno ni fel ryw eiddo'r tywysog, fod ni ddim yn fobl sy'n aelodau o unrhyw wlad, fod ni'n eiddo personol i'r tywysog."

Ond nid pawb sydd yn gwrthwynebu'r newyddion. Mae eraill wedi croesawu y cyhoeddiad mai y Tywysog William fydd Tywysog Cymru.

Yn ôl Mostyn Jones o Lanrwst ei fod yn beth "arbennig iawn bod o wedi gofyn i Tywysog William i gymyd yr anrhydedd o fod yn Dywysog Cymru a bod o hefyd wedi defnyddio y Gymraeg yn ei araith cyntaf fel brenin."

Newyddion "anhygoel"

Ychwanegodd Mr Jones ei bod hi'n "ddigalon bod 'na bobl yn penderfynu gwrthwynebu yn yr amser yma o galar achos mae'r tristwch nid yn unig yng Nghymru ond ar draws y byd a dwi'n siomedig bod 'na rai pobl yn bod yn amharchus ag yn penderfynu cal trafodaeth a dadl gwleidyddol."

Wrth ymateb i sylwadau'r Arglwydd Elis-Thomas, oedd wedi cwestiynu'r angen i barhau gyda'r teitl Tywysog Cymru, dywedodd Mostyn Jones bod "Cymru yn rhan o'r Deyrnas Unedig, mae'r Teulu Brenhinol ar hyn o bryd, y brenin, yn rhan annatod o gyfansoddiad y Deyrnas Unedig.

"Meddyliwch, ma' pob un deddf sydd wedi cael ei basio yn Senedd Cymru yn enw y Frenhines a fydd y deddfa' sydd i'w ddod yn enw y brenin felly ma' rôl y Teulu Brenhinol yn bwysig iawn mewn sawl ffordd a dyla' bod Dafydd Elis-Thomas yn gwbod hynny yn well na neb."

Ni fydd Elfed Wyn ap Elwyn yn croesawu arwisgiad tebyg i'r un a gafodd y Tywysog Charles yng Nghaernarfon ym 1969.

"Fyddai'm yn croesawu unrhyw un o gwbl. Dwi'n gweld o'n warth os ma'n digwydd yn gyhoeddus a dwi'n gweld o'n warth os ma'n digwydd tu ôl drysau caeedig.

"Di'm bwys be' 'dio, ma'n rwbio halan mewn i'r briw hanesyddol 'ma gan atgoffa ni fod ni ddim yn bobl cyfartal ac ein bod ni'n eiddo penodol i'r tywysog neu i'r teitl 'ma."

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.