Newyddion S4C

Cydnabod Charles III fel brenin yn ffurfiol

10/09/2022
Charles

Mae Charles III yn cael ei gydnabod yn ffurfiol fel brenin ddydd Sadwrn mewn seremoni'r Proclamasiwn ym Mhalas St. James.

Fe gafodd y seremoni ei darlledu yn fyw ar y teledu am y tro cyntaf erioed.

Roedd oddeutu 200 o weinidogion yn cyfarfod ym Mhalas St James fore Sadwrn i ffurfio'r Cyngor Esgyniad, gan gynnwys Prif Weinidog Cymru Mark Drakeford a Llywydd y Senedd, Elin Jones.

Roedd cyn brif weinidogion y DU hefyd yn bresennol, gan gynnwys Boris Johnson, Gordon Brown, David Cameron, Theresa May, John Major a Tony Blair.

Image
Proclomasiwn
Y Cyngor Esgyniad

Tywysog Cymru, William, oedd y cyntaf i arwyddo'r proclamasiwn ac yna'r Frenhines Gydweddog, Camilla. 

Dechreuodd y seremoni drwy ddatgan bod "Ei Mawrhydi y Frenhines Elizabeth II wedi marw ddydd Iau, 8 Medi 2022 yng Nghastell Balmoral."

Yna, fe gafodd Charles ei gyhoeddi yn swyddogol fel y brenin newydd.

Yn ystod ei ddatganiad, fe wnaeth y brenin roi teyrnged i'w fam, gan ddweud ei bod hi'n "esiampl ysbrydoledig" ac y byddai'n rhoi "yr hyn sy'n weddill o'i fywyd" i'w rôl newydd.

Image
Charles
Fe wnaeth y brenin newydd wneud datganiad a thyngu llw

Fe gafodd y proclamasiwn ei ddarllen ar y balconi ym Mhalas St. James cyn i anthem genedlaethol y DU gael ei chwarae yn ogystal â 41 salíwt gwn i nodi'r proclomasiwn. 

Image
Proclomasiwn
Y proclomasiwn yn cael ei ddarllen ar y balconi ym Mhalas St. James

Daeth cadarnhad hefyd y byddai diwrnod angladd y Frenhines yn Ŵyl y Banc yn y Deyrnas Unedig, ond nid oes dyddiad wedi ei gyhoeddi eto. 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.