Gynnau'n tanio salíwt yng Nghaerdydd i nodi marwolaeth y Frenhines
Gynnau'n tanio salíwt yng Nghaerdydd i nodi marwolaeth y Frenhines
Mae gynnau wedi talio salíwt 96 o weithiau yng Nghaerdydd ac ar draws y Deyrnas Unedig ddydd Gwener.
Fe ddechreuodd y gynnau eu tanio yng Nghastell Caerdydd am 13:00 gan Gatrawd y Magnelwyr Brenhinol i nodi marwolaeth y Frenhines.
Cafodd un rownd ei thanio pob 10 eiliad, gyda 96 rownd yn cynrychioli un ar gyfer bob blwyddyn o fywyd y Frenhines.
Cyhoeddodd y Teulu Brenhinol fod Ei Mawrhydi Eliazbeth II wedi marw brynhawn dydd Iau.
Cafodd eglwysi hefyd eu hannog i ganu eu clychau o ganol dydd ymlaen am un awr i nodi ei marwolaeth.
Fe fydd gwasanaeth cyhoeddus yn cael ei gynnal yn Eglwys Gadeiriol St Paul's yn Llundain o 18:00 ymlaen.
Cyhoeddodd Eglwys Cymru bod llyfrau cydymdeimlad wedi cael eu hagor a gwasanaethau arbennig yn cael eu cynnal ar draws y wlad.
Mae’r Senedd wedi ei adalw ar gyfer sesiwn arbennig a gaiff ei chynnal am 15:00 ddydd Sul, 11 Medi. Bydd y cynnig o gydymdeimlad yn cael ei ddarlledu’n fyw ar senedd.tv