Newyddion S4C

Cynrychioli Cymru yng Nghwpan y Byd yn 'freuddwyd'

09/09/2022

Cynrychioli Cymru yng Nghwpan y Byd yn 'freuddwyd'

"Ma' pawb fan hyn am reswm, ma' pawb fan hyn i ennill."

Mae cynrychioli Cymru yng Nghwpan y Byd 7 bob ochr yn rywbeth "mae rhywun yn freuddwydio" ei wneud, meddai un fydd yn gwireddu'r freuddwyd honno dros y penwythnos. 

Mae Iwan Pyrs Jones o Gaerdydd yn 19 oed, a bydd yn rhan o garfan rygbi Cymru ar gyfer Cwpan y Byd saith bob ochr dros y penwythnos.

Dechreuodd Iwan chwarae rygbi yn 7 oed, ond daeth cyfle i'w ystyried yn iawn fel gyrfa yn ystod y cyfnod clo. 

"Fi’n meddwl dros lockdown nath rili helpu fi oherwydd roedd fi angen 'neud fel bach o decision bach fel gweld os y fi moyn actually chware rygbi so o’dd fi angen neud fel ymarfer ben fy hun, gym ben fy hun, jyst i dangos roedd fi actually isie neud hwn," meddai Iwan. 

"Roedd fi’n dangos i fi fy hun roedd fi’n gallu neud e just gan gweithio’n galed, just fel neud yr un peth drosodd a drosodd hyd yn oed os dio’n dechre bod yn fel bach yn boring fel dal neud yr un peth."

'Canolbwyntio ar rygbi'

Er yn fachgen ifanc, mae'n rhaid i Iwan wneud pendefyniadau anodd sy'n golygu bod yn rhaid iddo aberthu pethau fyddai person ifanc arferol yn ei wneud o ddydd i ddydd.

"Ma' hwnna y peth mwya anodd oherwydd fel 'ma ffrindia fel "o, ni’n mynd allan" ond fel dwi’n mynd allan ond ddim fel pob penwthnos just er mwyn neud siwr fi ddim yn colli pwyse neu fel colli ffocws ar y rygbi.

"Yn y diwedd y dydd fel, fi moyn neud hwn am fel gyrfa mor hir a fi’n gallu so fi just yn gallu canolbwyntio am bach yn neud rygbi, dwi’n gallu neud yn llawer well na mynd allan dros y weekend a petha fel hwnna."

Mae Iwan eisioes wedi cynrychioli Cymru yn Singapore, Llundain ac ar draws Ewrop, ond mae'n parhau yn fraint fawr iddo allu gwneud hyn.

"'Sai’n gallu aros i mynd allan i chware a fel chware dros Cymru yn Cwpan y Byd, ma pobl yn jyst dreamio am pethe fel hwnna pan ma nhw’n bach. Ma’n rygbi ar diwedd y dydd, ma’ unrhywbeth yn gallu digwydd.

"Ni 'di dod i fan hyn i ennill, ni ddim jest 'di dod i fan hyn i cal bach o fel tic yn y bocs "Ma' Cymru 'di dod i Cwpan y Byd", fel yn diwedd y dydd, ni 'di dod fan hyn i ennill."

Mynd o nerth i nerth a chael gyrfa yn y byd rygbi ydi'r uchelgais i Iwan, sydd ar hyn o bryd yn astudio Rheoli Chwaraeon ym Mhrifysgol Hartpury.

"Jyst joio rygbi a trial gweld beth sy’n digwydd yn y dyfodol gyda fi a rygbi, ond fel y peth fel dwi eisiau neud yw chware rygbi obviously so fi’n meddwl bod hwn 'di dangos be' ma' bod yn professional rugby player yn actually fel a sai’n gallu aros i dal neud e pan fi’n hynach."

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.