Newyddion S4C

weldon.jpeg

Dyn oedd wedi ei amau o ladd 10 o bobl yn Canada wedi marw

Reuters 08/09/2022

Mae dyn gafodd ei arestio ar amheuaeth o ladd 10 person yn Canada wedi marw ar ôl cael ei arestio.

Roedd yr heddlu yn Canada wedi bod yn chwilio am Myles Sanderson, 30, am bedwar diwrnod cyn iddynt ei ddarganfod a'i arestio.

Roedd Mr Sanderson wedi ei arestio ar amheuaeth o drywanu 10 person ym mhentref Weldon yn Saskatchewan ddydd Mercher.

Wedi i'r heddlu ei arestio, roedd Mr Sanderson wedi dechrau dioddef nifer o "anawsterau meddygol" ac fe gafodd ei gludo i'r ysbyty lle bu farw.

Darllenwch fwy yma.

This website uses cookies to ensure you get the best experience on our website.