Undeb Rygbi Cymru yn gwahardd menywod traws rhag cystadlu mewn categorïau merched yn unig
08/09/2022Mae Undeb Rygbi Cymru wedi gwahardd menywod traws rhag cystadlu mewn cystadlaethau merched yn unig.
Nid oes unrhyw chwaraewyr traws wedi eu cofrestru yng Nghymru ar hyn o bryd, ond dywedodd yr Undeb eu bod nhw wedi gwneud y penderfyniad "ar sail tystiolaeth feddygol a gwyddonol ac yn unol â chanllawiau World Rugby."
Mae Cymru yn dilyn undebau rygbi Lloegr ac Iwerddon, sydd eisoes wedi gwahardd menywod traws rhag chwarae yn y categori merched.
Dim ond chwaraewyr sydd yn ferched o enedigaeth yn unig fydd yn gallu cystadlu mewn cystadlaethau rygbi merched, sydd yn ddiweddariad o'r polisi blaenorol oedd yn galluogi menywod traws i chwarae, a hynny'n dibynnu ar ganlyniadau profion testosteron.
Darllenwch fwy yma.
