'Dim unrhyw fath o gydraddoldeb' rhwng pêl-droed merched a dynion

'Dim unrhyw fath o gydraddoldeb' rhwng pêl-droed merched a dynion
"S'dim unrhyw fath o gydraddoldeb rili yn y gêm ar hyn o bryd."
Er bod gêm gyfartal tîm merched Cymru yn erbyn Slofenia i sicrhau lle yn y gemau ail-gyfle yn gam pwysig ymlaen yn natblygiad pêl-droed menywod, mae Laura McAllister yn credu fod cryn ffordd i fynd eto i sicrhau cydraddoldeb o fewn y gamp.
Chwaraeodd Cymru o flaen eu torf fwyaf erioed wrth i 12,741 deithio i Stadiwm Dinas Caerdydd i wylio tîm Gemma Grainger yng ngêm olaf y gemau grŵp yn eu hymgyrch Cwpan y Byd.
Daw hyn ddiwrnod yn unig wedi i BBC Cymru gyhoeddi eu bod wedi sicrhau hawliau pêl-droed merched Cymru tan 2027 mewn partneriaeth ar y cyd â Chymdeithas Bêl-droed Cymru.
Er hyn, dywedodd Ms McAllister bod angen bod yn "realistig" wrth asesu'r llwyddiant gan bod llawer o ffordd i fynd eto.
Dywedodd wrth Newyddion S4C: "Wel, yn sicr mae wedi newid gymaint, a fi mor falch i weld y camau 'da ni wedi cymryd i ddatblygu'r gêm. Ond, mae rhaid hefyd bod yn realistig, a jyst rhoi ryw fath o gyd-destun i'r cynnydd, oherwydd ma' 'na lot o tir o flaen ni hefyd."
Ychwanegodd bod angen gwella'r cyfleusterau ar lawr gwlad i sicrhau bod llwyddiant y tîm cenedlathol presennol yn parhau.
'Sd'im unrhyw fath o gydraddoldeb rili yn y gêm ar hyn o bryd, a mae rhaid i ni rili adeiladu'r gêm i fod yn fwy proffesiynol, i creu cyfleusterau gwell i ferched ifanc yn arbennig, a jyst normaleiddio'r gêm i ferched ifanc yn yr ysgolion. "
Dywedodd hefyd bod angen manteisio ar lwyddiant tîm Gemma Grainger, sef y "cam cyntaf" er mwyn cystadlu a chael eu cydnabod yn rhyngwladol.
"Ni gyd yn gwybod ma' 'na lot o waith o flaen ni, ond nawr 'da ni wedi cymryd y cam cyntaf rili yn fy marn i, i fod yn credible ar llwyfan y byd, a gobeithio nawr 'da ni'n gallu mynd ymlaen ac ennill y gemau ail-gyfle."
Llun: Asiantaeth Huw Evans