Newyddion S4C

Agor cwest i farwolaeth dynes fu farw mewn gwrthdrawiad ym Mhen Llŷn

North Wales Live 06/09/2022
S4C

Mae cwest i farwolaeth dynes fu farw mewn gwrthdrawiad ym Mhen Llŷn ym mis Awst wedi clywed sut y bu farw wedi iddi ddioddef "nifer o anafiadau."

Bu farw Anna Llewelyn Roberts, 27 oed, o Ben Llŷn wrth gerdded ar ffordd yr A499 yn Y Ffôr toc wedi 02:00 fore Sadwrn, 20 Awst.

Clywodd y cwest yng Nghaernarfon ddydd Mawrth bod Heddlu Gogledd Cymru wedi derbyn galwad gan y gwasanaeth ambiwlans am 02:16 wedi adroddiadau o wrthdrawiad rhwng car a cherddwr ac ei bod hi o'r herwydd wedi marw yn sgil "nifer o anafiadau."

Dywedodd y crwner, Katie Sutherland, bod "y cwest llawn wedi ei ohirio nes bydd ymchwiliad llawn wedi ei gynnal."

Mewn teyrnged, dywedodd ei theulu bod "Anna yn gymar, mam, merch, chwaer, wyres a ffrind arbennig iawn. Yn llawn balchder am ei merch fach Erin, a’i bywyd yn troelli o’i hamgylch.

"Ei hannwyl gariad Iwan, ei theulu a'i chydweithwyr yn Rondo Media oedd popeth iddi. Nid oes unrhyw eiriau nac emosiwn i gyfleu ein colled, ni fydd ein bywydau fyth yr un fath heb Anna."

Darllenwch fwy yma.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.