Llenyddiaeth Cymru yn penodi dwy brif weithredwr newydd
Mae Llenyddiaeth Cymru wedi penodi Leusa Llewelyn a Claire Furlong fel gyd-Brif weithredwyr newydd ar y sefydliad.
Er bydd y ddwy yn gweithio ar y cyd i arwain Llenyddiaeth Cymru, byddant yn canolbwyntio ar elfennau gwahanol o waith y sefydliad.
Mae Leusa Llewelyn wedi'i phenodi fel cyfarwyddwr artistig tra bod Claire Furlong wedi'i hapwyntio fel cyfarwyddwr gweithredol.
Yn ôl cadeirydd Llenyddiaeth Cymru, Cathryn Charnell-White, fe fydd y ddwy yn dod â "syniadau ffres" wrth wireddu cynllun strategol newydd y sefydliad.
Dywedodd Leusa Llewelyn, sydd wedi bod yn gweithio gyda Llenyddiaeth Cymru ers i'r corff gael ei sefydlu yn 2011, ei bod yn "fraint aruthrol" i gael ei phenodi i'r swydd.
"Llenyddiaeth yw fy myd, ac mae’n teimlo fel yr anrhydedd mwyaf un i gael y cyfle i arwain y sefydliad llenyddol cenedlaethol sy’n bodoli i ddatblygu mwy o awduron sy’n cynrychioli’r hyn sy’n gwneud Cymru yn wych ac yn unigryw."
Ychwanegodd Claire Furlong, sydd wedi bod yn ddirprwy brif weithredwr Llenyddiaeth Cymru ers 2011, ei bod "wrth ei bodd" cyd-weithio gyda Ms Llewelyn fel prif weithredwr.
"Gyda’n gilydd, mae gan Leusa a minnau weledigaeth fentrus o sin lenyddol ffyniannus yng Nghymru, ac rydym yn edrych ymlaen at weithio gydag eraill ar draws y sector i wireddu’n darlun o Gymru lle mae llenyddiaeth yn grymuso, gwella ac yn cyfoethogi bywydau.”