Newyddion S4C

Priti Patel yn ymddiswyddo fel Ysgrifennydd Cartref

Sky News 05/09/2022
Priti Patel

Rai oriau wedi'r cyhoeddiad mai Liz Truss fydd prif weinidog nesaf y Deyrnas Unedig, mae'r Ysgrifennydd Cartref Priti Patel wedi ymddiswyddo.

Dywedodd Ms Patel mewn llythyr at Boris Johnson brynhawn ddydd Llun fod ei chyfnod yn y cabinet wedi bod yn "fraint anhygoel." 

Wrth amddiiffyn y polisi dadleuol i anfon ceiswyr lloches i Rwanda, dywedodd Ms Patel ei bod yn holl bwysig fod olynydd Boris Johnson yn  "cefnogi pob agwedd o'r polisiau ar fewnfudo anghyfreithlon. " 

Mae disgwyl i Lizs Truss benodi ei chabinet newydd ddydd Mawrth

Darllenwch fwy yma

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.