Newyddion S4C

Rhybudd melyn am daranau i rannau o Gymru

05/09/2022
Storm

Mae rhybudd melyn am daranau i rannau o Gymru. 

Fe fydd y rhybudd gan y Swyddfa Dywydd mewn grym rhwng 14:00 ddydd Llun a 02:00 fore Mawrth.

Mae'r rhybudd yn effeithio ar 17 o siroedd yn nwyrain a de Cymru.  

Mae'r Swyddfa Dywydd yn dweud bod siawns bychan y gallai cartrefi a busnesau brofi difrod yn sgil llifogydd ac mae yna rybuddion am golli pŵer.

Maen nhw hefyd yn rhybuddio am amodau gyrru gwael ac y gallai hyn effeithio ar wasanaethau trên a bws .

Mae disgwyl y gallai rhai mannau weld hyd at 20-30mm o law o fewn cyfnod o awr ac 50-80mm o fewn tair awr.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.