Newyddion S4C

Penodi Prif Weithredwr cyntaf YesCymru

S4C

Mae YesCymru wedi penodi eu Prif Weithredwr llawn amser cyntaf.

Bydd Gwern Gwynfil yn adrodd i Gorff Llywodraethol Cenedlaethol YesCymru, sy'n ymgyrchu dros annibyniaeth i Gymru, a bydd yn gyfrifol am redeg y sefydliad o ddydd i ddydd.

Mae gan Mr Gwynfil, 48, gefndir busnes cryf wedi iddo weithio fel Rheolwr Gyfarwyddwr yn ei fusnes teuluol Rhiannon Cyf yn Nhregaron am 18 mlynedd.

Dywedodd Gwern ei fod yn "edrych ymlaen at chwarae rhan allweddol ym mhennod nesaf datblygiad YesCymru."

Daw hyn wedi i aelodau YesCymru bleidleisio o blaid newidiadau i'r mudiad ym mis Rhagfyr y llynedd, gan gynnwys cyfansoddiad newydd i'r grŵp ymgyrchu. 

 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.