Newyddion S4C

Tri wedi marw gan gynnwys dau o blant yn dilyn 'digwyddiad treisgar' yn Nulyn

The Irish Times 04/09/2022
Heddlu Dulyn

Mae’r heddlu yn Iwerddon yn ymchwilio i farwolaethau merch yn ei harddegau a dau o blant yn dilyn “digwyddiad treisgar” yn Nulyn.

Cafodd yr heddlu eu galw i dŷ yn ardal Tallaght o'r ddinas am tua 00.30 fore dydd Sul.

Cafodd Lisa Cash 18 oed, ei brawd a’i chwaer Christy a Chelsea Cawley oedd yn efeilliaid 8 oed, eu cludo i’r ysbyty ond fe fuon nhw farw yno yn hwyrach.

Cafodd bachgen yn ei arddegau anafiadau difrifol yn y digwyddiad ac mae e'n derbyn triniaeth yn yr ysbyty.

Dywedodd yr heddlu eu bod nhw wedi arestio dyn yn ei 20au cynnar ac mae e wedi ei gadw yn y ddalfa.

Ychwanegodd yr heddlu eu bod nhw’n credu fod pawb oedd yn gysylltiedig â’r digwyddiad yn adnabod ei gilydd ac nid ydyn nhw yn chwilio am unrhyw berson arall.

Dywedodd yr heddlu fod y digwyddiad yn un "treisgar, heriol a thrawmatig."

Darllenwch fwy yma.

Llun: Irish Times

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.