Cynnal angladd Mikhail Gorbachev ym Moscow
Bydd angladd arweinydd olaf yr Undeb Sofietaidd, Mikhail Gorbachev, yn cael ei gynnal ym Moscow ddydd Sadwrn.
Fe fydd gan y cyhoedd gyfle i gerdded heibio ei arch agored cyn iddo gael ei gladdu mewn mynwent ym Moscow wrth ochr ei wraig.
Dywedodd Arlywydd Rwsia Vladimir Putin na fydd yn mynychu'r angladd oherwydd “pwysau gwaith.”
Bu farw Mr Gorbachev ddydd Mawrth yn 91 oed.
Roedd Mr Gorbachev yn Ysgrifenydd Cyffredinol yr Undeb Sofietaidd rhwng 1985 ac 1990, cyn dod yn Arlywydd ar yr Undeb rhwng Mawrth 1990 a Rhagfyr 1991.
Roedd ei bolisi o Perestroika, oedd yn gyfrifol am newidiadau i strwythur economi'r Undeb Sofietaidd, yn gam arwyddocaol yn hanes yr undeb honno.
O dan ei arweinyddiaeth fe adawodd lluoedd yr Undeb Sofietiaidd eu hymgyrch filwrol waedlyd yn Affganistan yn 1989.
Daeth yn enwog am hybu tryloywder o dan y slogan 'Glasnost', gan alluogi'r wasg i leisio barn agored am wleidyddon yr Undeb Sofietiaidd a'u polisïau.
Agorodd hyn y drws i ddiwedd y Rhyfel Oer yn y pen draw, wrth i wledydd y Bloc Sofietaidd awchu am ryddid o rym gwleiddol Moscow.
Fe dderbyniodd y Wobr Nobel am ei ymdrechion, ac fe fydd yn cael ei weld fel un o ffigyrau mwyaf dylanwadol ail hanner yr ugeinfed ganrif.