Newyddion S4C

Y Seintiau Newydd nôl ar frig y JD Cymru Premier

Sgorio 03/09/2022
Penybont v Cei Connah

Wedi dim ond pedair gêm o’r tymor newydd mae ‘na olwg gyfarwydd ar frig y Cymru Premier JD gan mae’r Seintiau Newydd bellach yw’r unig dîm sydd heb golli yn y gynghrair.

Cei Connah (7fed) v Pen-y-bont (4ydd) | Dydd Sadwrn – 14:30

Mae Pen-y-bont yn un o dri chlwb sy’n dechrau’r penwythnos un pwynt y tu ôl i’r ceffylau blaen, Y Seintiau Newydd.

Er curo’r Bala nos Fawrth, mae Cei Connah yn parhau i fod yn yr hanner isaf ond mae’r Nomadiaid wedi ennill eu dwy gêm gartref y tymor yma.

Bydd hi’n siwr o fod yn frwydr agos yn Stadiwm Glannau Dyfrdwy gan i’r ddwy gêm ddiwethaf rhwng y timau yma orffen yn gyfartal.

Hwlffordd (5ed) v Y Drenewydd (9fed) | Dydd Sadwrn – 14:30

Roedd hi’n golled gostus i Hwlffordd yn erbyn Pen-y-bont nos Fawrth wrth i’r Adar Gleision ildio eu lle ar y copa a syrthio i’r pumed safle.

Ond roedd ‘na ddathlu yn Y Drenewydd gan i’r Robiniaid sgorio am y tro cyntaf y tymor hwn a sicrhau eu buddugoliaeth gyntaf o’r tymor yn erbyn Caernarfon.

Fe gafodd Hwlffordd hwyl dda yn eu dwy gêm yn erbyn Y Drenewydd y tymor diwethaf gan ennill un a chael un gêm gyfartal.

Met Caerdydd (2il) v Y Fflint (3ydd) | Dydd Sadwrn – 14:30

Ennill tair a cholli un – dyna record y ddau dîm yma sydd wedi cael dechrau ardderchog i’r tymor ac sydd ond un pwynt y tu ôl i’r Seintiau Newydd.

Mae blaenwr Met Caerdydd, Sam Jones wedi dechrau’r tymor ar dân gan sgorio chwe gôl mewn pedair gêm, ac felly dyw hi’n ddim syndod mae’r myfyrwyr yw prif sgorwyr y gynghrair (10 gôl).

Fe wnaeth Y Fflint fwynhau eu hymweliad â Champws Cyncoed y tymor diwethaf gan ennill 5-1 yn y brifddinas ar y penwythnos agoriadol cyn cael gêm gyfartal 2-2 ar Gae-y-Castell ym mis Ionawr.

Pontypridd (10fed) v Y Seintiau Newydd (1af) | Dydd Sadwrn – 14:30

Mae’r Seintiau Newydd yn ôl yn eu hen safle arferol ar frig y gynghrair ar ôl ildio dim ond unwaith yn eu pedair gêm gynghrair hyd yma.

Ar ôl methu ag ennill ei ddwy gêm gyntaf ers dychwelyd i’r clwb fel rheolwr, mae Craig Harrison bellach wedi sefydlogi’r Seintiau a chodi’r pencampwyr presennol yn ôl i frig y tabl.

Hon fydd y gêm gyntaf erioed rhwng y ddau glwb a gallai fod yn brynhawn heriol i Bontypridd, sydd wedi colli tair o’u pedair gêm ers eu dyrchafiad i’r uwch gynghrair.

Bydd uchafbwyntiau’r gemau ar gael ar wefannau cymdeithasol Sgorio a bydd y gorau o gemau’r penwythnos i’w gweld ar S4C nos Lun am 10:00.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.