Arlywydd Biden: 'Trump yn fygythiad i ddemocratiaeth yn yr UDA'

Mae Arlywydd yr UDA, Joe Biden, wedi rhybuddio bod Donald Trump ac eithafwyr y Blaid Weriniaethol yn 'fygythiad i ddemocratiaeth y wlad.'
Wrth annerch y genedl yn Philadelphia, sef y ddinas ble ganwyd democratiaeth Americanaidd, dywedodd yr Arlywydd bod yr UDA yn wynebu brwydr barhaus ar gyfer "enaid y genedl."
Ychwanegodd bod "Donald Trump a Gweriniaethwyr Maga (Make America Great Again) yn cynrychioli eithafiaeth sy'n bygwth sylfeini ein Gweriniaeth."
Pwysleisiodd Mr Biden nad oedd y mwyafrif o'r blaid yn "eithafwyr Maga", ond dywedodd fod y blaid wedi ei "dominyddu, ei chymell ac o dan fygythiad" gan Mr Trump.
Daw hyn ddeufis cyn yr etholiadau canol tymor yn dilyn cyfnod cadarnhaol i'r Democratiaid yn sgil buddugoliaethau deddfwriaethol arwyddocaol a beirniadaeth gan y cyhoedd o benderfyniad y Goruchaf Lys i ddiddymu hawl menywod Americanaidd i gael erthyliad.
Darllenwch fwy yma.