Newyddion S4C

Arian ychwanegol i ffermwyr i blannu coed mewn ymateb i newid hinsawdd

Arian ychwanegol i ffermwyr i blannu coed mewn ymateb i newid hinsawdd

Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi ddydd Gwener y bydd ffermwyr a pherchnogion tir yn derbyn £32m mewn ymateb i'r argyfwng newid hinsawdd, gyda disgwl iddynt blannu 86 miliwn o goed cyn 2030.

Er mwyn sicrhau bod Cymru yn wlad sero net erbyn 2050, mae angen plannu 43,000 hectar o goetir newydd cyn diwedd y ddegawd. 

Fel rhan o'r cynlluniau newydd, bydd y Cynllun Grantiau Bach yn ceisio ei gwneud hi'n haws i dalu ffermwyr a pherchnogion tir sydd am blannu darnau bach o goed yng Nghymru.

Bydd y Grant Creu Coetir yn cynnig arian i ffermwyr, sydd â'u cynlluniau creu coetir wedi eu cymeradwyo gan Llywodraeth Cymru, er mwyn plannu coed a ffensio.

Mae Hefin Jones yn ffermwr yn Sir Gaerfyrddin a dywedodd bod yna "nifer o bobl sydd falle yn agored i ystyried y posibiliade am gynyddu gorchudd coed ar eu tir nhw, ma' na wahaniaeth rhwng bod yn agored i ystyried a bod yn frwdfrydig dros rwbeth.

"Yr unig beth fydden i yn prysuro i weud yw bod 'na bryderon wedi bod yn y gorffennol am arian yn cael ei roi i gwmnïau mawr, corfforaethol sy'n prynu tir yng nghefn gwlad Cymru er mwyn plannu coed - ma' na alwade' wedi bod i Llywodraeth Cymru i osod mesure yn eu lle i luniaru unrhyw effaith negyddol ar y gymuned wledig yn sgil datblygiade o'r fath." 

'Lle gan bawb i chware'

Er bod gan y ffermwr rôl hollbwysig er mwyn gwireddu cynlluniau Llywodraeth Cymru, mae Mr Jones yn credu bod cyfrifoldeb gan gymdeithas yn gyffredinol i gyfrannu a gweithredu.

"Fydden ni'n annog cymdeithas yn gyfan gwbl yn hytrach na disgwl i rywun arall i gymryd y cyfrifoldeb pennaf, bod pawb yn edrych ar leihau eu hôl-troed carbon nhw. 'Wy'n credu bod na le gan bawb i chware, nage jyst ffermwyr, ond ma' amaeth yn rhan yn sicr o'r datrysiad."

Yn ôl Mr Jones, mae dylanwad y ffermwr yn ganolog i'r cynllun diweddaraf.

"Os ydi Llywodraeth Cymru wir moyn sicrhau bod ffermwyr yn cyfrannu a bod gan ffermwyr le i gyfrannu at gyrraedd eu targed nhw, ma' angen wedyn bod 'na ddealltwriaeth o'r egwyddor a derbyn yr egwyddor mai ffermwyr sy'n adnabod eu ffermydd nhw ore."

Ychwanegodd bod yna "angen i'r ffarmwr gallu lleoli ble ma'r coed 'ma yn cael eu plannu a bod y penderfyniad 'na yn cal'i neud ar y ffarm gan y ffermwr, ddim gan unrhyw un arall."

Dywedodd y Gweinidog Newid Hinsawdd, Julie James, y bydd "plannu mwy o goed yn hanfodol i helpu Cymru i osgoi rhai o effeithiau gwaetha’r newid yn yr hinsawdd.  Gall creu coetir ddod â chyfoeth o fanteision i gymunedau lleol, o swyddi gwyrdd i leoedd ar gyfer natur.

"Rydym am i ffermwyr Cymru fod yn ganolog i’n cynlluniau.  Does neb yn nabod eu tir yn well felly er mwyn sicrhau bod eu busnesau’n gynaliadwy, nhw fydd yn penderfynu ble i blannu’r coed."

Mae'n rhaid i Cyfoeth Naturiol Cymru gymeradwyo pob cynllun sydd am dderbyn grant gan y llywodraeth.

Dywedodd cyfarwyddwr gweithredol tystiolaeth, polisi a chaniatáu Cyfoeth Naturiol Cymru, Ceri Davies, bod "cynyddu’r gorchudd coed ledled Cymru fel rhan o’r Cynllun Creu Coetir yn rhan hanfodol o’r ymdrech i ddelio â’r argyfyngau hinsawdd a natur, ac i helpu i wireddu uchelgais y wlad i fod yn sero net."

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.