Newyddion S4C

Pryderon dros ychwanegu manylion calorïau ar fwydlenni yng Nghymru

01/09/2022

Pryderon dros ychwanegu manylion calorïau ar fwydlenni yng Nghymru

Mae elusen anhwylderau bwyta wedi mynegi pryder dros effeithiau gorfodi bwytai i gynnwys manylion calorïau ar fwydlenni yng Nghymru. 

Daw hyn wrth i ymgynghoriad Llywodraeth Cymru ar y polisi ddod i ben. Mae'r newid eisoes wedi'i gyflwyno yn Lloegr, ac wedi derbyn beirniadaeth chwyrn gan rai. 

Mae Llywodraeth Cymru am gyflwyno'r polisi fel rhan o gynlluniau i hybu bwyta'n iach. 

Ond mae'r elusen Beat yn dweud y bydd y newid yn cael dylanwad andwyol ar iechyd meddwl pobl sy'n byw gydag anhwylderau bwyta. 

Yn ôl arolwg gan yr elusen, dywedodd 98% o bobl y bydd dangos calorïau ar fwydlenni yn gwaethygu teimladau o bryder. 

"Da ni'n hynod o siomedig i glywed bod y Llywodraeth yn ystyried ychwanegu calorïau i fwydlenni," meddai Siân Brough, dirprwy reolwr gwasanaethau Beat. 

"Yn enwedig gan ystyried bod dim fawr o dystiolaeth i ddangos bod ychwanegu calorïau ar fwydlenni yn arwain at newid arferion bwyta ymhlith y boblogaeth.

"Ond mae 'na dystiolaeth i ddangos bod o'n cael effaith sylweddol ar rheiny sydd yn dioddef anhwylderau bwyta."

'Da ni'n cael ein anghofio'

Un sydd yn pryderu dros y newid i fwydlenni yw Bethan Angharad Evans o Gaerdydd. 

Mae Bethan wedi byw gydag anhwylder bwyta am 20 mlynedd ac yn teimlo nad yw'r Llywodraeth yn talu sylw i bobl fel hi wrth ystyried y polisi newydd. 

"Sneb yn sylweddoli faint o effaith mae hwn yn mynd i gael arnom ni o gwbl, 'da ni'n cael ein anghofio," meddai. 

Image
Bethan Angharad Evans
Mae Bethan Angharad Evans yn galw ar Lywodraeth Cymru i beidio ychwanegu calorïu ar fwydlenni.

"Es i allan y diwrnod o blaen efo ffrind a weles i'r calorïau ar fwydlen a naeth e rhoi ofn arnai, naeth e dychryn fi ac roedd rhaid i fi newid fy meddwl dros be o'n i'n mynd i gael.

"O'n i'n methu mwynhau fy hun gymaint â fyswn i wedi os o'n i heb weld y calorïau." 

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Mae ein hymgynghoriad am ystod o fesurau, gan gynnwys cyflwyno calorïau ar fwydlenni a'r gofyniad i rai busnesau bwyd ddarparu bwydlenni heb galorïau ar gais, newydd ddod i ben.

"Byddwn yn ystyried yr holl ymatebion yn ofalus wrth inni ystyried y camau nesaf.

"Er nad yw labelu'n orfodol yng Nghymru ar hyn o bryd, mae rhai busnesau eisoes wedi cyflwyno calorïau ar fwydlenni a byddem yn gofyn, lle bo modd, fod bwytai yn darparu bwydlenni nad ydynt yn cynnwys manylion calorïau ar gais.”

Er hyn, mae pobl fel Bethan dal yn bryderu dros y dylanwad gall y newid ei gael ar eu bywydau.

"Dwi mynd i peidio mynd allan, dwi mynd i peidio mynd i gael bwyd," meddai.

"Mae gweld y calorïau 'ma jyst mynd i gael mwy o effaith arnai i yn negyddol yn hytrach na mynd allan i gael hwyl."

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.