Apêl ar ôl i feiciwr ddioddef 'anafiadau difrifol' ar Ynys Môn
31/08/2022
Mae Heddlu Gogledd Cymru yn ymchwilio wedi i feiciwr ddioddef anafiadau difrifol ar Ynys Môn yr wythnos diwethaf.
Fe gafodd y dyn ei ddarganfod gydag anafiadau difrifol ar ffordd rhwng Llangoed a Llanddona am tua 19:00 nos Fercher, 24 Awst.
Ar hyn o bryd, mae'n parhau i dderbyn triniaeth yn yr ysbyty yn Stoke.
Dywedodd PC Jon Bradshaw o'r Uned Plismona Ffyrdd bod person wedi "stopio a galw am ambiwlans, ond yn anffodus, ni wnaethon nhw adael unrhyw fanylion, felly rydym ni'n erfyn ar yr unigol i gysylltu gyda ni."
Mae'r llu yn gofyn i unrhyw un sydd â gwybodaeth i gysylltu â nhw gan nodi cyfeirnod 22000645281.