Y Frenhines i gwrdd â'r prif weinidog newydd yn Balmoral

Bydd y prif weinidog newydd yn gorfod teithio i Balmoral yn Yr Alban i gyfarfod â'r Frenhines cyn dechrau yn swyddogol yn y rôl, medd y teulu brenhinol.
Bydd Boris Johnson hefyd yn gorfod teithio 500 milltir o Lundain i'r ystâd yn Swydd Aberdeen ddydd Mawrth cyn iddo ymddiswyddo fel prif weinidog.
Bydd yn cael ei olynu gan Liz Truss neu Rishi Sunak yn y rôl.
Caiff y canlyniad ei gyhoeddi amser cinio ddydd Llun, cyn i'r prif weinidog ddechrau yn swyddogol ddydd Mawrth.
Bydd y prif weinidog presennol yn gwneud datganiad byr y tu allan i Rif 10 cyn teithio i Balas Buckingham i weld y Frenhines.
Darllenwch fwy yma.
Llun: Swyddfa Dramor / Flickr