Newyddion S4C

Prisiau bwyd wedi codi ar y gyfradd gyflymaf ers 2008 yn mis Awst 

Sky News 31/08/2022
Archfarchnad

Mae prisiau bwyd wedi codi ar y gyfradd gyflymaf ers 2008 ym mis Awst.

Gwelwyd cynnydd 9.3%  ym mis Awst o gymharu â chynnydd o 7% fis Gorffennaf yn ôl ffigyrau diweddaraf gan Gonsortiwm Manwerthu Prydain (BRC) a NielsenIQ.

Mae BRC yn dweud mai rhyfel Wcráin sydd wrth wraidd y cynnydd sylweddol. 

Mae prisiau bwyd ffres 10.5% yn uwch nac ym mis Awst llynedd, gyda chynnyrch fel llaeth a margarîn yn gweld y cynnydd mwyaf.

Mae chwyddiant blynyddol prisiau siopau hefyd wedi cynyddu i 5.1% ym mis Awst, i fyny o 4.4% ym mis Gorffennaf, ac mae bellach ar ei uchaf ers 2005. 

Rhagor yma. 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.