Cwest Oliva Pratt-Korbel yn clywed am ymdrechion i geisio'i hachub
Clywodd cwest i farwolaeth Oliva Pratt-Korbel fod plismon wedi ceisio achub ei bywyd, drwy roi ei law dros ei chlwyf wrth iddo ei chludo i ysbyty.
Cafodd y ferch naw oed ei saethu wrth i'w mam geisio atal dau ddyn rhag dod i mewn i'w cartref yn ardal Dovecot,Lerpwl ar nos Lun 22 Awst.
Olivia oedd y trydydd unigolyn i gael ei saethu'n farw yn y ddinas o fewn llai nag wythnos.
Bu farw Sam Rimmer, 22 oed, ar 17 Awst ar ôl cael ei saethu gan ddau ddyn ar feiciau trydan yn ardal Dingle.
Ddydd Sul 21 Awst, cafodd Ashley Dale, 28 oed, ei saethu yn ei gardd yn ardal Old Swan o'r ddinas.
Brynhawn Mawrth, cafodd y cwestau i farwolaethau'r tri ohonyn nhw eu hagor a'u gohirio tan 4 Ionawr 2023, ac apeliodd Crwner Lerpwl ar i'r cyhoedd ddarparu unrhyw wybodaeth allai fod o gymorth i'r heddlu.
Rhoddodd ganiatad i ryddhau'r cyrff er mwyn i'w teuluoedd fedru cynnal eu hangladdau.