Newyddion S4C

Teyrnged i fam 'falch' a fu farw yng Nghwmbrân

30/08/2022
Susan Moore

Mae teulu menyw a fu farw yng Nghwmbrân dros y penwythnos wedi rhoi teyrnged iddi. 

Cafodd y gwasanaethau brys eu galw i ddigwyddiad yn y dref yn sir Torfaen ddydd Sadwrn yn dilyn adroddiadau bod menyw wedi dioddef ymosodiad.

Cafodd Susan Moore, 53, ei chludo i Ysbyty Athrofaol Cymru ond bu farw o'i hanafiadau. 

Mae dyn 48 oed wedi'i gyhuddo o'i llofruddio ac yn parhau yn y ddalfa.

Cafodd ail ddyn, sydd yn 45 oed, hefyd ei arestio ar amheuaeth o lofruddiaeth. Mae bellach wedi'i ryddhau ar fechnïaeth amodol wrth i ymchwiliadau'r heddlu barhau. 

Mewn teyrnged, dywedodd teulu Ms Moore: "Fe wnaeth Susan fyw ei bywyd i'r eithaf, a doedd na fyth foment ddiflas yn ei chwmni." 

"Roedd hi'n ferch ac yn fam falch i dri, a bydd colled fawr ar ei hôl." 

Mae Heddlu Gwent yn parhau i apelio am ragor o wybodaeth, ac yn awyddus i siarad ag unrhyw un welodd Ms Moore yn y deuddydd cyn ei marwolaeth. 

Llun: Heddlu Gwent 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.