Y cyn Aelod Cynulliad Mick Bates wedi marw
Mae Mick Bates, y cyn Aelod Cynulliad dros y Democratiaid Rhyddfrydol yn etholaeth Sir Drefaldwyn, wedi marw yn 74 oed.
Cafodd ei ethol yn 1999, yn nhymor cyntaf y Cynulliad Cenedlaethol.
Yn ystod haf 2009, cyhoeddodd ei fwriad i ymddeol adeg yr etholiad nesaf yn 2011.
Fis Rhagfyr 2010, cafodd ei ddyfarnu'n euog o dri chyhuddiad o ymosod ac o droseddu yn erbyn y drefn gyhoeddus, wedi iddo ymosod ar barafeddygon y tu allan i fwyty yng nghanol dinas Caerdydd.
Dywedodd nad oedd yn cofio'r digwyddiad hwnnw nac un arall wedi iddo gael ei gludo i Ysbyty Athrofaol Cymru yn y brifddinas.
Ymddiswyddodd o'r Democratiaid Rhyddfrydol cyn parhau'n aelod annibynnol yn y Cynulliad tan ei ymddeoliad yn 2011.
Mae Democratiaid Rhyddfrydol Cymru wedi rhoi teyrnged iddo gan ei alw yn "ymgyrchydd diflino" dros gymunedau gwledig.
It is with great sadness that we announce former Montgomeryshire Liberal Democrat Assembly Member Mick Bates has passed away.
— Welsh Liberal Democrats (@WelshLibDems) August 29, 2022
Mick loved Montgomeryshire and will be remembered for his intelligence & warmth.
Our thoughts are with his loved ones.https://t.co/Q6IzksxspV pic.twitter.com/DoMJ0a9Eit
Dywedodd arweinydd Democratiaid Rhyddfrydol Cymru, Jane Dodds, fod Mick Bates yn un o'r bobl mwyaf "caredig a chroesawgar."
"Roedd ei ddealltwriaeth o'r problemau a oedd yn effeithio ar Sir Drefaldwyn yn ddiddiwedd. Ni fydd yna neb arall fel Mick Bates," meddai.