Newyddion S4C

Ymchwiliad Llofruddiaeth Cwmbran: Ail ddyn wedi ei arestio

29/08/2022
Ffordd Redbrook, Cwmbrân

Mae'r heddlu sy'n cynnal ymchwiliad i lofruddiaeth, ar ôl i gorff dynes gael ei ddarganfod yng Nghwmbran fore Sul 28 Awst, wedi arestio ail ddyn. 

Cafodd yr heddlu a pharafeddygon eu galw i gyfeiriad yn y dref yn sir Torfaen tua 7.25 yn sgil honiadau am ymosodiad.  

Cafodd dynes 53 oed o Gwmbran ei chludo i Ysbyty Athrofaol Cymru yng Nghaerdydd, lle bu farw yn ddiweddarach. 

Mae ail ddyn, 45 oed o Gwmbran wedi ei arestio ar amheuaeth o lofruddio, ac yn cael ei gadw yn y ddalfa.    

Mae dyn lleol 48 oed yn dal i fod yn y ddalfa ar ôl iddo fe gael ei arestio dros y penwythnos ar amheuaeth o lofruddio. 

Mae Heddlu Gwent yn annog unrhywun sydd â gwybodaeth i gysylltu â nhw drwy ffonio 101, neu drwy anfon neges uniongyrchol ar gyfryngau cymdeithasol gan ddefnyddio'r cyfeirnod 2200291088.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.