Newyddion S4C

Bron i 25% o oedolion yn bwriadu 'peidio gwresogi eu cartrefi' yn ystod y gaeaf

The Guardian 29/08/2022
gwresogi

Mae arolwg newydd yn awgrymu y gallai 23% o oedolion y DU ddewis peidio gwresogi eu cartrefi y gaeaf hwn oherwydd y cynnydd mewn costau ynni.

Ar 26 Awst cyhoeddodd Ofgem bod cap costau ynni yn codi 80% o £1,971 y flwyddyn i £3,549 y flwyddyn.

Mae'r arolwg gan y Democratiaid Rhyddfrydol hefyd yn awgrymu y bydd 70% o bobl yn bwriadu defnyddio llai o wres dros y gaeaf.

Dywedodd y Canghellor Nadhim Zahawi y bydd pob tŷ yn derbyn £400 i helpu gyda'r cynnydd mewn costau ynni.

Darllenwch fwy yma.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.