25 o ddogfennau a gafodd eu cymryd o dŷ Donald Trump yn ‘gyfrinachol iawn’

Sky News 26/08/2022
Donald Trump

Mae affidafid wedi datgelu yr oedd 25 o ddogfennau a gafodd eu cymryd o dŷ Donald Trump wedi'u labeli'n ‘gyfrinachol iawn’

Mae’r math yma o ddogfennau yn dogfennu gwybodaeth a allai achosi niwed "eithriadol o ddifrifol" i ddiogelwch yr Unol Daleithiau.

Bu'r FBI yn cymryd 15 blwch o ddogfennau cyfrinachol o gartref y cyn-arlywydd ar 8 Awst. Mae Adran Cyfiawnder yr Unol Daleithiau bellach wedi cadarnhau bod Mr Trump o dan ymchwiliad o dan y Ddeddf ysbïwriaeth. 

Mae'n ofynnol i arlywyddion yr Unol Daleithiau drosglwyddo dogfennau a negeseuon e-bost i'r Archifau Cenedlaethol pan fyddant yn gadael eu swydd.

Mae Donald Trump wedi gwadu gwneud unrhyw beth o’i le.

Mwy yma.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.