Newyddion S4C

Llys yn gorfodi CPD Caerdydd i dalu ffi trosglwyddo Emiliano Sala

26/08/2022
Emiliano Sala

Mae CPD Caerdydd wedi colli ei apêl i beidio talu'r ffi trosglwyddo i Nantes ar gyfer y pêl-droediwr Emiliano Sala. 

Fe wnaeth yr ymosodwr ymuno a'r Adar Gleision am £15m ym mis Ionawr 2019 ond bu farw cyn chwarae gêm i'r clwb wedi i'w awyren blymio i'r môr ar ei ffordd i Gymru.

Yn dilyn ei farwolaeth, fe wnaeth CPD Caerdydd wrthod talu'r ffi ar gyfer Sala, gan honni nad oedd yr ymosodwr 28 oed yn chwaraewr swyddogol i'r clwb ar y pryd. 

Mae bwrdd llywodraethu pêl-droed rhyngwladol, FIFA, wedi penderfynu bod rhaid i Gaerdydd dalu Nantes ar gyfer y chwaraewr. 

Roedd CPD Caerdydd wedi apelio yn erbyn y penderfyniad, maent wedi colli'r apêl yn Llys Cyflafareddiad Chwaraeon (Cas) dydd Gwener. 

Yn ôl y llys, roedd cytundeb i drosglwyddo Sala i Gaerdydd wedi'i gwblhau, gan orfodi'r clwb i dalu'r rhandal cyntaf gwerth £5.3m i FC Nantes. 

Mewn datganiad, dywedodd Caerdydd ni fydd y clwb yn talu'r swm yma, gan ddweud y bydd y clwb yn apelio'r penderfyniad unwaith eto. 

"Nid yw'r penderfyniad yn ateb y cwestiwn o gyfrifoldeb FC Nantes (a'i asiantiaid) yn yr achos ac felly bydd rhaid i'r hwn cael ei phenderfynu mewn fforwm gwahanol." 

"Unwaith y bydd ein cyfreithwyr yn asesu'r rhesymau dros y penderfyniad, rydym yn disgwyl i apelio ac ni fydd unrhyw daliadau yn cael eu gwneud yn y cyfamser i FC Nantes." 

"Os yw'r apêl yma yn aflwyddiannus a bydd rhaid i'r clwb talu'r ffi,  fe fydd y clwb yn dwyn achos cyfreithiol yn erbyn y rhai sydd yn gyfrifol ar gyfer y digwyddiad er mwyn adennill ei cholledion. Mae hyn yn cynnwys FC Nantes a'i asiantiaid."

Llun: Asiantaeth Huw Evans

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.