Ryan Giggs: Rheithgor yn parhau â'u trafodaethau ar ôl gohirio
Fe fydd y rheithgor achos yn erbyn Ryan Gigg, yn ailymgynnull ddydd Mawrth i ystyried ei ddyfarniad.
Mae'r rheithgor wedi eu hanfon adref am y penwythnos wedi i'r trafodaethau barhau ddydd Gwener.
Fe gafodd yr achos ei ohirio ddydd Iau oherwydd salwch un o aelodau'r rheithgor.
Mae'r aelod hwnnw bellach wedi eu rhyddhau o'u dyletswyddau ac fe fydd y rheithgor yn parhau i drafod gydag 11 aelod.
Dywedodd y Barnwr Hilary Manley fod aelod o reithgor ond yn cael eu rhyddhau o'u dyletswyddau os oedd "angen sylweddol" a pe bai'r gwrandawiad yn cael ei ohirio eto fe fyddai'r rheithgor yn atal eu trafodaethau am bum diwrnod.
Ychwanegodd y barnwr nad oedd unrhyw sicrwydd y byddai'r aelod wedi gwella erbyn dydd Mawrth a bod hon yn sefyllfa lle mae "gradd sylweddol o angen".
Mae Mr Giggs wedi ei gyhuddo o ymosod ar ei gyn-gariad Kate Greville, a'i chwaer Emma.
Mae e hefyd wedi ei gyhuddo o reoli Kate Greville drwy orfodaeth.
Mae cyn-hyfforddwr pêl-droed Cymru yn gwadu'r cyhuddiadau yn ei erbyn.
Mae aelodau'r rheithgor wedi cael gorychmyn i anelu am ddyfarniad unfrydol.
Mae'r achos yn parhau.