Newyddion S4C

Gareth Bale yn cwrdd â theulu wnaeth hedfan i Los Angeles, er iddo beidio chwarae yn y gêm

Nation.Cymru 24/08/2022
Bale a cefnogwyr

Mae Gareth Bale wedi cwrdd â theulu o Gymru wnaeth hedfan i Los Angeles i'w wylio'n chwarae i dîm LAFC, er na wnaeth chwarae yn y gêm.

Roedd Rebecca Timms a'i theulu, o Borthcawl, wedi hedfan i wylio Bale yn chwarae dros ei dîm newydd, ond bu siom fawr i'r teulu gan nad oedd Bale wedi ei gynnwys yn y garfan ar gyfer y gêm yn erbyn DC United.

Yn dilyn y siom, roedd LAFC wedi cysylltu gyda'r teulu drwy Nation.Cymru, ac fe drefnwyd iddynt gwrdd â Bale i gael lluniau a'i hetiau bwced wedi'u harwyddo ganddo.

Dywedodd Rebecca: "Dwi erioed wedi gweld y plant yn gwenu gymaint. Nid yw hyn yn uchafbwynt ein gwyliau yn unig, ond ein blwyddyn. Ni methu aros i gefnogi Bale fis nesaf pan ni'n gwylio ef yn chwarae i Gymru."

Darllenwch fwy yma.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.