Newyddion S4C

Rishi Sunak: Pwy yw’r ymgeisydd i Rif 10?

Newyddion S4C 23/08/2022

Rishi Sunak: Pwy yw’r ymgeisydd i Rif 10?

Mae haf o ymgyrchu bron ar ben i ddau ymgeisydd yn y ras i fod yn arweinydd newydd ar y blaid Geidwadol ac yn Brif Weinidog Prydain.

Mae llai na phythefnos i fynd nes gwybod os mai y cyn-ganghellor Rishi Sunak neu’r ysgrifennydd tramor Liz Truss fydd yn olynu Boris Johnson.

Ond pwy yw Rishi Sunak?

Cafodd Sunak ei eni yn Southampton yn 1980, yn fab i fferyllydd a meddyg, lle gafodd addysg breifat cyn mynd cyn i astudio yn Rhydychen a'r Unol Daleithiau.

Ar ôl gweithio yn y diwydiant bancio, fe gafodd Rishi Sunak ei ethol i Dŷ'r Cyffredin fel Aelod Seneddol Richmond am y tro cyntaf yn 2015.

Fe bleidleisiodd Sunak o blaid Brexit cyn ymuno â llywodraeth Theresa May yn 2018.  Dwy flynedd yn ddiweddarach cafodd ei benodi'n ganghellor yng nghabinet Boris Johnson.

Ei gyfrifoldeb oedd cynnal yr economi drwy'r pandemig, gan gyhoeddi'r system furlough er mwyn cefnogi'r rhai oedd methu gweithio oherwydd y cyfnod clo. 

Daeth hefyd i’r amlwg yn ystod sgandal y partïon yn Downing Street a bu'n rhaid iddo dalu dirwy yn dilyn ymchwiliad yr heddlu.

Sunak oedd un o aelodau cynta'r cabinet i ymddiswyddo cyn cwymp Boris Johnson ym mis Gorffennaf.

Yn ôl y sylwebydd gwleidyddol, Theo Davies-Lewis fe allai penderfyniad Sunak i droi cefn ar Boris Johnson fod yn arwyddocaol yng nghanlyniad y bleidlais.

Fi'n credu bod lot o aelodau Ceidwadol ddim wedi cefnogi Rishi Sunak hyd yn hyn, a ddim wedi pleidleisio drosto fe, achos maen nhw'n meddwl bod e'n fradwr yn erbyn Boris Johnson.

 "Dy'n nhw ddim yn hapus â'r ffaith bod Rishi Sunak fel canghellor wedi ymddiswyddo yn ystod crisis economaidd, yn ystod crisis costau byw a crisis ynni."

Polisïau Rishi Sunak

Mae Rishi Sunak wedi diystyru torri trethi ar unwaith os yw e'n ennill y bleidlais.

Mae wedi addo cefnogi pobl gyda'u biliau ynni gan ond torri trethi ar ôl mynd i'r afael a lefelau chwyddiant, sydd wedi'i rhagfynegi i gyrraedd 18% blwyddyn nesaf. 

Cynlluniau Sunak sy’n apelio at Aelod Seneddol Ceidwadol dros etholaeth Pudsey yng Ngorllewin Swydd Efrog, Stuart Andrew.

"Dwi'n meddwl bod o'n hollol bwysig i fod yn onest efo'r cyhoedd, a'r ffordd dwi'n edrych arno mae gynnon ni broblemau yn yr economi rŵan."

"Dwi'n meddwl bod Rishi yn gywir i wneud yn siŵr ein bod ni'n aros i dorri taxes a dyna pam dwi'n cefnogi fo."

 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.