Perchnogion CPD Wrecsam yn mwynhau buddugoliaeth swmpus
Cafodd presenoldeb perchnogion enwog Clwb Pêl-droed Wrecsam effaith arbennig ar y tîm ddydd Sadwrn wrth iddyn nhw ennill o 5-0 yn erbyn Maidstone United.
Dywedodd Ryan Reynolds ar y cyfryngau cymdeithasol: “Rwy wedi cyrraedd yr eglwys mewn pryd.”
Daw ymweliad sêr Hollywood i’r Cae Ras ychydig ddyddiau cyn darlledu rhaglen ddogfen ‘Croeso i Wrecsam’.
Bydd y rhaglen sy’n dilyn taith Clwb Pêl-droed Wrecsam yn eu blwyddyn gyntaf dan berchnogaeth Ryan Reynolds a Rob McElhenney, ar gael i wylwyr ym Mhrydain ar 25 Awst.
Mae'r gyfres yn dilyn taith y clwb dros y tymor diwethaf a'r hyn y mae dau o sêr Hollywood wedi ei ddysgu am redeg clwb pêl-droed yng Nghymru.
Made it to church on time. @Wrexham_AFC pic.twitter.com/MyNSoPFxQe
— Ryan Reynolds (@VancityReynolds) August 20, 2022
Llun: Twitter/@vancityreynolds