Rhaglen Tudur Owen yn dod i ben ar brynhawn Gwener
Wedi dros 15 mlynedd ar y tonfeddi, bydd rhaglen Tudur Owen ar Radio Cymru bob prynhawn Gwener yn dod i ben.
Yn un o raglenni mwayf poblogaidd yr orsaf, cyhoeddodd Tudur Owen y bydd hi yn gorffen, wrth gyflwyno'i sioe ar Radio Cymru fore Sadwrn.
Bydd y rhaglen ar foreau Sadwrn yn parhau.
Ar ei raglen gyntaf wedi iddo ddychwelyd o gyfnod oddi ar y tonfeddi, ar ôl iddo fod yn perfformio mewn theatrau led-led Cymru gyda’r sioe Huw Fyw, rhannodd fraslun o raglen newydd gyda’i gyd-gyflwynwyr Dylan Meirion a Manon Rogers a fydd ar gael ar BBC Sounds.
Yn ôl BBC Cymru, bydd y rhaglen ar gael ar alw i’w lawrlwytho bob pythefnos drwy fynd i BBC Sounds.
Meddai Tudur Owen: "Dwi’n edrych ymlaen cael ail gydio yn y meicroffon ar foreua’ Sadwrn yng nghwmni Dyl Mei a Manon, siawns bydd ganddyn nhw sgandals i rannu!
"Bydd dipyn o newid gan ein bod ni’n mynd i ganolbwyntio ar raglen bore Sadwrn o hyn ymlaen. Fydd hyn yn rhoi amser i ni ddengyd o’r stiwdio a chreu rhaglenni ychwanegol fydd ar gael ar BBC Sounds."
Bydd Ifan Davies yn parhau wrth y llyw ar BBC Radio Cymru ar brynhawn dydd Gwener tan ddiwedd yr haf.
Dywedodd Dafydd Meredydd, Golygydd BBC Radio Cymru: "Mae rhaglen Tudur ar b’nawn Gwener wedi gwneud i ni chwerthin yn uchel am dros 15 mlynedd, a diolch o galon i Tudur a’r criw am ddechrau’r penwythnos i ni dros y cyfnod hwnnw.
"Mi fydda i’n edrych ymlaen at barhau i ddeffro hefo Tudur, Dyl a Manon ar foreau Sadwrn, ac yn edrych ymlaen at y rhaglen newydd, ecsgliwsif ar BBC Sounds."