Newyddion S4C

Stoke yn arwyddo asgellwr Cymru Sorba Thomas

Sorba Thomas

Mae Clwb Pêl-droed Stoke wedi arwyddo asgellwr Cymru, Sorba Thomas. 

Mae e wedi arwyddo cytundeb tair blynedd gyda'r clwb sydd yn y Bencampwriaeth, ar ôl treulio cyfnod ar fenthyg gyda Nantes yn Ligue 1 Ffrainc, tra ar lyfrau Huddersfield sy'n Adran 1 Lloegr.    

Ymunodd â charfan Cymru, tra roedd yn chwarae gyda Huddersfield, cyn cynrychioli ei wlad yng Nghwpan y Byd yn Qatar yn 2022. 

Chwaraeodd Thomas 125 o weithiau dros Huddersfield, gan sgorio ar saith achlysur. 

Dywedodd Rheolwr Huddersfield, Lee Grant: "Mae Stoke City wedi rhoi cynnig hael i'r clwb am wasanaethau Sorba ac mae'r chwaraewr wedi mynegi diddordeb i gymryd y cyfle hwnnw. Felly mae'n gytundeb sy'n gweithio i bawb. 

"Rwy'n dymuo'r gorau iddo gyda'i glwb newydd." 

Mae'r chwaraewr 26 oed gyda charfan Cymru ar hyn o bryd, ac roedd yn chwarae yn erbyn Liechtenstein nos Wener yn Stadiwm Dinas Caerdydd. Cig gornel Sorba Thomas lwyddodd i greu gôl gyntaf Cymru yn eu buddugoliaeth 0 3-0, a gôl gyntaf Joe Rodon dros ei wlad. 

Mae e bellach yn paratoi ar gyfer gêm bwysig Cymru yn erbyn Gwlad Belg nos Lun, gyda thîm Craig Bellamy ar frig y grŵp yn rowndiau rhagbrofol Cwpan y Byd.  

'Edmygu'

Thomas yw'r chwaraewr y mae Stoke wedi ei arwyddo gyntaf yr haf hwn.    

Dywedodd Cyfarwyddwr Chwaraeon y clwb, Jon Walters: "Mae Sorba yn chwaraewr rydym wedi ei edmygu ers tipyn o amser, ac rydym wrth ein boddau yn ei groesawu 

"Mae sicrhau'r cytundeb yn gynnar yn y ffenestr drosglwyddo yn rhywbeth cadarnhaol. Mae'n golygu y gall ymgartrefu yn gyflym a bydd yn dechrau gyda ni yn syth." 

Cyn ymuno â thim hyfforddi Stoke, roedd James Rowberry yn hyfforddwr cynorthwyol Craig Bellamy gyda charfan Cymru. 

Ychwanegodd Jon Walters:" Mae James Rowberry wedi gweithio'n agos gyda Sorba Thomas, felly rydym yn gwybod beth i'w ddisgwyl ar ac oddi ar y cae." 

Llun: Asiantaeth Huw Evans

 


 

 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.