‘Dim digon o sylw i'r gwrthdaro parhaus yng Nghyprus'

‘Dim digon o sylw i'r gwrthdaro parhaus yng Nghyprus'
Mae Cymraes o gefndir Cypriad-Groegaidd yn dweud nad oes digon o sylw yn cael ei roi i’r gwrthdaro parhaus yng Nghyprus.
Mae Ariadne Kousarous, sy’n byw yng Nghaerdydd, yn dweud bod diffyg gwybodaeth am hanes Cyprus wrth i’r wlad gofio’r ymosodiad gan Dwrci 48 mlynedd yn ôl.
Dywedodd Ariadne: “Rwy’n teimlo dylai fod ‘na fwy o sylw fel bod pobl yn gallu bod yn fwy ymwybodol o’r sefyllfa.”
Mae Cyprus wedi bod yn rhanedig ers i Dwrci oresgyn gogledd yr ynys mewn ymateb i coup milwrol gyda chefnogaeth llywodraeth Groeg.
Ar 20 Gorffennaf 1974, fe wnaeth Twrci ymosod ar Weriniaeth Cyprus.
Erbyn 14 Awst, lansiodd Twrci ail gyfres o ymosodiadau i ymestyn yr ardal roedd Twrci’n meddiannu arni’n anghyfreithlon.
“Mae’r dyddiad yn bwysig i mi oherwydd bod e’n 48 mlynedd ers y problemau yng Nghyprus a does dim byd wedi newid ers hynny, ac mae hwn yn pwysleisio’r rhaniad parhaol yn y wlad,” meddai.
“Rhywbeth dwi’n ffeindio sy’n bwysig iawn yw sôn am y dioddefaint ar y ddwy ochr,” meddai Ariadne.
“Mae yna symbolau gweledol, megis y waliau sy’n rhannu gogledd a de yr ynys.
"Hefyd, mae nifer y ghost towns ar draws yr ynys yn esiampl o effaith barhaol y gwrthdaro sy’n digwydd yng Nghyprus hyd at heddiw.”
Er gwaethaf ymdrechion y Cenhedloedd Unedig a'r Undeb Ewropeaidd dros y 50 mlynedd diwethaf, nid oes unrhyw ddatrysiad wedi bod, sy'n golygu mai hwn yw'r gwrthdaro hiraf yn Ewrop sydd heb ei ddatrys.
“Mae’n sefyllfa debyg iawn i’r hyn sydd wedi digwydd yn Wcráin a Phalesteina ond does dim lot o sylw yn y wasg am y sefyllfa o hyd," meddai Ariadne.
“Mae’n bwysig ein bod ni’n tynnu sylw a dysgu am orffennol Cyprus er mwyn inni wella’r dyfodol.”
Er hyn, mae pobl o dras Cypriad-Twrcaidd yn dweud bod y naratif tu ôl i’r hanes i gyd o safbwynt Groegaidd.
Dywedodd Mustafa Saganak, Cadeirydd sefydliad North Cyprus Exists: “Mae angen i'r cyfryngau gadw'n glir o sylw hanesyddol lle nad yw’r stori gyfan yn cael ei hadrodd: os ydych chi'n mynd i roi sylw i Gyprus ar benblwyddi sensitif fel 20 Gorffennaf neu 15 Awst, mae'n hanfodol bod dwy ochr y stori yn cael eu cynnwys.”
“Nid ydym yn gwadu bod Cypriaid-Groegaidd wedi dioddef yn aruthrol yn 1974, ond rydym yn drist bod cyn lleied o bobl yn cofio'r erchyllterau a gyflawnwyd yn ein herbyn ni.”