Llywydd yr ŵyl: 'Ewch lawr i'r dre a'r sgwâr'
Llywydd yr ŵyl: 'Ewch lawr i'r dre a'r sgwâr'
Mae Llywydd Eisteddfod Genedlaethol Ceredigion wedi annog pobl i fynd "lawr i'r dre a'r sgwâr" ar noson olaf y Brifwyl.
Dywedodd Aelod Seneddol Ceredigion, Ben Lake, ei bod hi'n fraint i fod yn Lywydd yn y Brifwyl eleni.
"Mae’n anrhydedd ta beth i fod yn Llywydd ar unrhyw Eisteddfod Genedlaethol ond i gael bod yn Llywydd yr ŵyl leol yn eich milltir sgwâr mwy neu lai, allai ddim credu am fraint fwy ac anrhydedd gwell. Dwi ond yn gobeithio fy mod i ‘di gneud rhyw fath o gyfiawnder ‘da fe yn fy araith.
Wrth siarad â Newyddion S4C, fe wnaeth Mr Lake annog unrhyw un yn yr Eisteddfod i fynd i'r dref ar y diwrnod olaf i fanteisio ar yr hyn sydd gan Dregaron a Cheredigion i'w gynnig.
"O’n i ‘na pwy nosweth ag o’dd e’n dda gweld y sgwâr tu allan i’r Talbot dan ei sang ‘da pobl yn mwynhau'r awyrgylch a pob clod i fusnese y dre achos ma’ nhw ‘di trefnu pethe yng nghanol y dre ‘na yn wych ac unrhyw un sydd am fynd nawr ar y diwrnod olaf a’r noson olaf, ewch lawr i’r dre a’r sgwâr, ma’ digon o bethe ‘na i chi."
Ychwanegodd Mr Lake y byddai'r Eisteddfod yn dangos diwylliant Ceredigion ar ei orau i unrhyw un o'i gyd-wleidyddion.
"Os ddewn nhw lan yn yr orie sydd yn weddill, fe welwn nhw cymuned wledig, falch, Cymreig i’r carn a’r ffordd ma' nhw ‘di bod yn ddigon ystwyth gyda’r holl herie sy ‘di bod dros y ddwy flynedd dwetha ‘ma, a wy yn meddwl bod tipyn all cymunede ar draws Cymru ddysgu o’r Cardis a ma’ hwn yn gyfle gwych iddyn nhw ddysgu’r wers ‘na."
Gwaddol Eisteddfod Genedlaethol Ceredigion fydd bod y Brifwyl wedi "atgyfnerthu'r angen ‘ma i sicrhau bod yr Eisteddfod yn rwbeth sydd yn parhau i deithio o fro i fro, yn mynd falle i’r ardaloedd hynny sydd ddim ‘di cynnal y ‘Steddfod yn y gorffennol er mwyn cyflwyno fwy o bobl i’r holl drysore a chyfoeth ein diwylliant ni.
"Fi’n credu y’n ni’n gwybod eisoes ‘da’r cyfrifiad gyment o newid sydd yn y boblogaeth a ma’r Eisteddfod yn llwyfan i ni falle trosi pobl newydd yn ein diwylliant ni a bo’ nhw wedyn yn dod i garu’r Gymraeg a phopeth sydd gan ein diwylliant ni i gynnig."