
Agwedd Llywodraeth y DU tuag at ddatganoli wedi ‘dirywio’ dan Boris Johnson
Agwedd Llywodraeth y DU tuag at ddatganoli wedi ‘dirywio’ dan Boris Johnson
Mae agwedd Llywodraeth y DU tuag at ddatganoli wedi “dirywio” dan brif weinidogaeth Boris Johnson, yn ôl y Gweinidog Addysg.
Dywedodd Jeremy Miles wrth Newyddion S4C fod y llywodraeth wedi dangos “amarch at benderfyniadau democrataidd pobol Cymru”.
Roedd y Gweinidog yn ymateb i sylwadau gan Liz Truss, un o’r ymgeiswyr ar gyfer arweinyddiaeth y blaid Geidwadol.
Yn ôl adroddiadau, fe gyfeiriodd Ms Truss at Mark Drakeford fel fersiwn “isel ei egni” o Jeremy Corbyn mewn dadl yng Nghaerdydd nos Fercher.
Mewn ymateb, dywedodd y Gweinidog addysg fod y sylwadau yn “sarhad”.
“Mae hi’n sarhad a dweud y gwir ar beth mae’n dweud,” meddai.
“Mae’n gwbl amharchus a mae e’n arwydd trist iawn dwi’n credu o ddatblygiad ‘yn ni wedi gweld drost cyfnod Boris Johnson fel Prif Weinidog o ddirywio yr agwedd tuag at ddatganoli ac amarch tuag at benderfyniadau democrataidd pobol Cymru.”

'Ail-osod y berthynas'
Yn ôl Mr Miles, mae’r etholiad ar gyfer arweinydd newydd i’r blaid Geidwadol yn San Steffan yn gyfle i “ail-osod” y berthynas rhwng llywodraethau Cymru a’r DU.
“Ma’ hyn yn gyfle i ail-osod y berthynas ac ma’ cyfrifoldeb ar bwy bynnag ddaw’n brif weinidog eto yn San Steffan i wneud hynny. Dyna’n disgwyliad ni fel llywodraeth,” ychwanegodd.
Mae disgwyl y bydd arweinydd newydd y Ceidwadwyr yn San Steffan, a’r Prif Weinidog nesaf, yn dechrau yn y rôl ddechrau mis nesaf.
Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth y DU: “Mae datganoli yn parhau i fod yn flaenoriaeth, sef pam ein bod ni’n gweithio’n agos gyda llywodraethau datganoledig a sicrhau fod gan Lywodraeth Cymru'r adnoddau i chwarae ei ran.
“Mae hyn yn cynnwys rhoi mwy o bwerau i arweinwyr lleol yng Nghymru drwy fuddsoddi £585 miliwn drwy Gronfa Ffyniant Gyffredin y DU a dros £120 miliwn drwy Gronfa Codi’r Gwastad.
"Mae’r arian hwn yn rhoi penderfyniadau yn nwylo arweinwyr lleol sy’n deall orau anghenion eu llefydd."
Mae Newyddion S4C wedi gofyn i swyddfa Liz Truss am ymateb.