Newyddion S4C

Catrin Haf Jones a Richard Wyn Jones

Cyhoeddi cyflwynydd newydd cyfres Y Byd yn ei Le

NS4C 04/08/2022

Fe fydd cyflwynydd newydd yn cyflwyno’r gyfres wleidyddol Y Byd yn ei Le o fis Medi.

Mae S4C wedi cyhoeddi y bydd y cyflwynydd Catrin Haf Jones yn cymryd yr awenau ar ddechrau’r gyfres nesaf gyda mewnbwn gan Yr Athro Richard Wyn Jones.

Daw hyn wedi i Guto Harri gamu o’r neilltu er mwyn mynd i weithio fel Cyfarwyddwr Cyfathrebu i’r Prif Weinidog Boris Johnson ym mis Chwefror.

Mewn digwyddiad ym mhabell Prifysgol Caerdydd ar faes yr Eisteddfod Genedlaethol brynhawn Iau, dywedodd Geraint Evans, Cyfarwyddwr Strategaeth Cynnwys a Chyhoeddi S4C, y byddai’r rhaglen yn dychwelyd “gyda thîm cyflwyno newydd”.

Dywedodd ei bod hi’n “hollbwysig” bod y sianel yn darparu rhaglen wleidyddol i’w chynulleidfa.

Ychwanegodd bod ganddo bob ffydd y bydd hi’n “rhaglen ragorol fydd yn craffu”.

Mae disgwyl y bydd Catrin Haf Jones yn parhau gyda’i dyletswyddau cyflwyno ar wasanaethau’r BBC er y bydd y rhaglen yn parhau i fod yn gynhyrchiad ITV Cymru ar gyfer S4C.

This website uses cookies to ensure you get the best experience on our website.