Tawelwch Tregaron: 'Bro Steddfod ddim yn bwysig bellach'
Tawelwch Tregaron: 'Bro Steddfod ddim yn bwysig bellach'
Mae un o wynebau mwyaf cyfarwydd Ceredigion yn annog pobl i fentro tu hwnt i Faes yr Eisteddfod eleni.
Dywedodd y newyddiadurwr Lyn Ebenezer y byddai yna "bobl yn mynd adref o Dregaron ddydd Sul heb hyd yn oed weld Henry Richard mwy na thebyg."
Gan bod sawl bar i'w gael bellach ar Faes yr Eisteddfod yn ogystal â stondinau di-ri, does dim cyfle i bobl Tregaron, o'r siopau lleol i'r caffis i'r bwytai, arddangos eu tref ar ei gorau yn ystod y Brifwyl, meddai.
Ychwanegodd Mr Ebenezer ei bod hi'n gwneud synnwyr bellach i gynnal yr Eisteddfod mewn un man yn hytrach nag ar draws Cymru gan nad ydy Eisteddfotwyr yn manteisio ar yr hyn sydd gan yr ardal i'w gynnig.
"Man a man 'se ni'n cynnal yr Ŵyl nawr yn yr un man bob blwyddyn fel ma'r sioe yn neud yn Llanelwedd - ishe cymysgu â bobl sydd tu allan i Faes y 'Steddfod neu 'sdim pwynt cynnal 'Steddfod," meddai.
'Bro 'Steddfod ddim yn bwysig'
Ychwanegodd y gallai ei sylwadau synnu rhai pobl gan ei fod yn "aelod oes o Undeb y Tancwyr", ond mae'n credu yn sgil yr hyn sy'n digwydd yn Nhregaron nad yw "bro 'Steddfod yn bwysig bellach."
Gan bod popeth i'w gael ar y Maes, mae hyn yn mynd ar draul y dref yn ôl Mr Ebenezer, ac iddo fe, "nid dyna'r 'Steddfod.
"Di nhw ddim yn cwrdd â'r bobl sy'n cyfri sef pobl Tregaron'i hunan. Pryd ddaw'r 'Steddfod i Dregaron eto?
"Yn sicr dim yn fy oes i, ond gadewch i bobl Tregaron elwa bach mas ohono fe fel Cardis da wrth gwrs."