
Sioned Erin Hughes yn cipio'r Fedal Ryddiaith yn yr Eisteddfod
Sioned Erin Hughes yn cipio'r Fedal Ryddiaith yn yr Eisteddfod
Sioned Erin Hughes sydd wedi ennill y Fedal Ryddiaith yn yr Eisteddfod Genedlaethol eleni, mewn cystadleuaeth a ddenodd 17 o ymgeiswyr.
Mae Erin yn 24 mlwydd oed ac yn byw ym Moduan, ger Pwllheli.
Mae ei buddugoliaeth yn golygu fod tair o'r prif wobrau yn yr Eisteddfod eleni wedi mynd i Ben Llŷn. Fe gipiodd Esyllt Maelor o Forfa Nefyn y goron ddydd Llun, gyda Meinir Pierce Jones o Nefyn yn fuddugol yng ngwobr medal Daniel Owen ddydd Mawrth.
Graddiodd Sioned Erin Hughes mewn Cymdeithaseg a Chymraeg ym Mhrifysgol Bangor, cyn dilyn cwrs Meistr mewn Ysgrifennu Creadigol dan arweiniad yr Athro Gerwyn Wiliams.
Daeth yn fuddugol am y Goron yn Eisteddfod yr Urdd Brycheiniog a Maesyfed yn 2018, a daeth yn ail am y Fedal Ddrama yn Eisteddfod yr Urdd Sir Ddinbych eleni.
'Dianc'
Testun y gystadleuaeth oedd cyfrol o ryddiaith greadigol heb fod dros 40,000 o eiriau ar y pwnc ‘Dianc’.
Y beirniaid oedd Meg Elis, Dylan Iorwerth ac Eurig Salisbury.
Cyflwynwyd y Fedal a’r wobr ariannol o £750 gan Gymdeithas Cyfeillion Llyfrgell Genedlaethol Cymru.

Wrth draddodi’r feirniadaeth o’r llwyfan ar ran ei chyd-feirniaid, dywedodd Meg Elis: “Fe welwch ein bod ni’n tri wedi amrywio o ran lle’r ydym yn gosod y rhai sydd yn yr ail neu’r trydydd dosbarth, ac y mae hynny’n beth iach. Ond pawn ddown at y tri ymgeisydd sydd wedi cyrraedd y brig, rydym yn unfryd - er nad yn gyfan gwbl felly, fel y cewch weld...
“Mae Mali, Mesen a Gwraig yn haeddu ystyriaeth o ddifrif, ac y mae i’r tri eu gwahanol rinweddau. Cyflwynodd Mali gyfres o storïau dan y teitl ‘Ninefe’: a storïau gorffenedig ydyn nhw, nid darnau bach pytiog. Wrth i chi ddarllen ymlaen, fe welwch fod yna gysylltiad pendant rhwng y storïau, a rhwng y cymeriadau sy’n cael eu darlunio hefyd...
“Mae yma gymeriadau rhyfeddol gan Gwraig yn ei nofel hi, ‘Sut i Ddofi Corryn’. O bosib mai’r wraig ei hun ydi’r cymeriad sy’n ein cyffwrdd fwyaf, a’i hymdrech i ganfod gwellhad i ganser ei gŵr yn ein symud un funud i fyd ffantasi, at ymwneud agos gŵr a gwraig â’i gilydd. Mae Gwraig hefyd wedi llwyddo, bron, i osgoi’r fagl y disgynnodd eraill iddi, sef methu â chadw rheolaeth dros ddeunydd uchelgeisiol. ‘Bron’ ddywedais i, ond nid yn gyfan gwbl."
'Dangos, nid dweud'
Ychwanegodd Meg Elis: “Cywair tawel sydd i Mesen, a’i storïau dan y teitl ‘Rhyngom’ ar y cyfan, ond mae yma rywun sy’n gwybod i’r dim sut i gyfleu cymeriad mewn ymadrodd, pryd i fod yn gynnil a phryd i ddefnyddio ambell i gymal sy’n gwneud i’r darllenydd aros yn stond a rhyfeddu. Cryfder Mesen yw’r gallu i daflu goleuni ar y berthynas rhwng pobl a’i gilydd, ac y mae wedi llwyr ddysgu’r wers y talai i lawer o’r ymgeiswyr eraill ei rhoi ar gof a chadw - “dangos, nid dweud.”
“Casgliad Mesen yn bendant a blesiodd Eurig, tra bod Dylan yn cael ei dynnu at Mali. Roedd yng ngwaith Gwraig gymaint o nodweddion oedd yn peri pleser llenyddol i minnau. Ac un o bleserau cyd-feirniadu ydi’r cyfle i drafod, i ail-ddarllen ac ail-ymweld, a myfyrio dros y cynnyrch a gawsom. Dyna a wnaethom ni’n tri, ac mae’n dda gen i ddweud ein bod ni’n tri wedi dod i gytundeb mai, o blith y tair cyfrol a ddaeth i’r brig eleni, mai ‘Rhyngom’, gan Mesen, sy’n teilyngu’r Fedal yn Nhregaron eleni.”
Sioned Erin Hughes oedd golygydd a churadur y gyfrol Byw yn fy Nghroen, a oedd ymhlith y buddugwyr yng Ngwobrau Tir na n-Og yn 2020. Ysgrifennodd ei llyfr cyntaf i blant, Y Goeden Hud, yn ôl yn 2021, ar ddechrau'r Clo Mawr cyntaf. Mae hi bellach yn gweithio'n llawrydd ar lond llaw o brosiectau cyffrous.
Ei gobeithion at y flwyddyn sydd i ddod yw troi ei llaw at fyd y ddrama a barddoniaeth.
Ond mae'n awyddus iawn i bwysleisio mai rhyddiaith, anad unrhyw beth arall, sydd wedi cipio ei chalon.