Newyddion S4C

Galw am ragor o fesurau diogelwch ar draeth yn Llŷn

North Wales Live 03/08/2022
Porth Neigwl.png

Mae galwadau am ragor o fesurau diogelwch ar draeth ym Mhen Llŷn, yn dilyn digwyddiad dros y penwythnos.

Fe aeth merch ifanc i drafferthion yn y dŵr ger traeth Porth Neigwl, a bu bron iddi foddi medd llygaid dystion.

Yn dilyn y digwyddiad mae galwadau am wardeiniaid diogelwch ar y traeth, fel sydd ar draeth poblogaidd Abersoch gerllaw.

Dywed Cyngor Gwynedd fod traeth Porth Neigwl yn un diarffordd a llawer tawelach na thraeth Abersoch, a bod asesiad risg blynyddol yn cael ei gynnal, gydag arwyddion yn rhybuddio pobl am beryglon yno.

Darllenwch ragor yma.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.