Nancy Pelosi yn addo solidariaeth gyda Taiwan yn sgil bygythiad milwrol Tseina

Mae llefarydd Tŷ Cynrychiolwyr yr Unol Daleithiau, Nancy Pelosi, wedi addo solidariaeth "hanfodol" gyda Taiwan yn sgil y bygythiad milwrol gan Tseina.
Daeth y datganiad mewn cyfarfod hanesyddol gydag Arlywydd Taiwan, Tsai Ing-wen.
Mewn cynhadledd i'r wasg ddydd Mercher, fe wnaeth Pelosi gwestiynu cymhelliant Arlywydd Tesina, Xi Jinping, yn sgil ei ymateb cryf i'w hymweliad.
Mae Tseina wedi addo y bydd yna 'oblygiadau' gan ddatgan y bydd yn cychwyn driliau byw yn agos i Taiwan ddydd Iau.
Mae Pelosi yn Taiwan mewn ymweliad dadleuol sydd wedi creu ymateb ffyrnig gan Tseina, gan gynnwys profion taflegrau a gweithrediadau milwrol o gwmpas yr ynys, sydd yn ôl Taiwan yn torri cyfraith ryngwladol.
Dywedodd Pelosi fod yr UDA wedi gwneud addewid 43 mlynedd yn ôl i "sefyll mewn solidariaeth gyda Taiwan. Ar y sylfaen hon rydym wedi adeiladu partneriaeth lwyddiannus."
Darllenwch fwy yma.
Llun: Gage Skidmore