Arweinydd Al Qaeda wedi ei ladd yn Affganistan

Sky News 02/08/2022
Al Qaeda

Mae arweinydd Al Qaeda,  Ayman al-Zawahiri, wedi ei ladd gan ymosodiad awyr Americanaidd yn Affganistan, yn ôl yr Arlywydd Biden.

Wrth annerch y genedl o'r Tŷ Gwyn, dywedodd Mr Biden fod yna "gyfiawnder" ar ôl caniatáu'r ymosodiad ar y dyn oedd yn ganolog i ymosodiadau 9/11.

"Does dim arweinydd terfysgol bellach," meddai wrth ddatgan ei obaith y bydd yn dod ag "ychydig o ddiweddglo" i deuluoedd bron i 3,000 o bobl fu farw yn ymosodiadau 11 Medi 2001. 

Y gred yw fod Mr al-Zawahiri wedi bod yn sefyll ar falconi tŷ diogel yn Kabul fore Sul cyn iddo gael ei ladd gan ddau daflegryn Americanaidd. 

Ychwanegodd Mr Biden na chafodd unrhyw un o deulu'r arweinydd Al Qaeda na chwaith unrhyw sifiliaid eu hanafu. 

Darllenwch fwy yma

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.