Dyn yn y llys wedi ei gyhuddo o lofruddio merch naw oed

Mae dyn wedi ymddangos mewn llys i wynebu cyhuddiad ei fod wedi llofruddio merch naw oed yn Sir Lincoln ddydd Iau diwethaf.
Bu farw Lilia Valutyte ar ôl iddi gael ei thrywanu wrth chwarae ar stryd yn Boston.
Mewn gwrandawiad yn Llys Ynadon Lincoln ddydd Llun, fe wnaeth Deividas Skebas, 22 oed, ymddangos i ateb y cyhuddiad yn ei erbyn.
Cafodd ei arestio ddydd Sadwrn yn dilyn apêl gan yr heddlu.
Fe fydd Skebas yn ymddangos mewn gwrandawiad arall yn Llys y Goron Lincoln yn ddiweddarach dydd Llun.
Darllenwch ragor yma.