Eglwys ar Ynys Môn yn cynnig gwersylla dros nos i osgoi gorfod cau

Mae Eglwys ar Ynys Môn wedi gwahodd gwersyllwyr i ddod i aros dros nos er mwyn osgoi gorfod cau.
Y gred ydy mai Eglwys St Dona yn Llanddona ydy'r eglwys gyntaf yng Nghymru i gynnig llety dros nos i ymwelwyr.
Fe gafodd yr eglwys ei hadeiladu yn 1873 o gwmpas filltir i ffwrdd o bentref Llanddona ar yr ynys.
Dywedodd y Parchedig Robert Townsend bod "pobl wrth eu bodd gyda'r syniad.
"Daeth y syniad tua blwyddyn i 18 mis yn ôl. Doeddem ni ddim yn gallu cyfiawnhau cael dwy eglwys ar gyfer un gwasanaeth ac ar ôl sawl trafodaeth, fe benderfynom ni roi tan 2024 i weld os y gallai'r eglwys gael ei defnyddio ar gyfer pwrpas arall er mwyn dangos bod gan yr adeilad botensial."
Darllenwch fwy yma.
Llun: Champing