Newyddion S4C

Diffodd dŵr ar safle'r Eisteddfod am gyfnod er mwyn cynnal profion ansawdd

Diffodd dŵr ar safle'r Eisteddfod am gyfnod er mwyn cynnal profion ansawdd

Fe gafodd y cyflenwad dŵr ar safle'r Eisteddfod Genedlaethol yn Nhregaron ei ddiffodd am ran helaeth o'r diwrnod er mwyn cynnal profion ar ansawdd y dŵr.

Roedd Newyddion S4C ar ddeall fod unigolion wedi derbyn cyngor i beidio ag yfed y dŵr am gyfnod.

Fe wnaeth swyddogion yr Eisteddfod gadarnhau brynhawn Gwener fod y sefyllfa wedi ei datrys ar y maes carafanau a bod y dŵr bellach yn ddiogel i'w ddefnyddio.

Bydd canlyniadau profion ar brif Faes yr Eisteddfod yn cael eu cadarnhau fore Sadwrn.

Dywedodd llefarydd ar ran yr Eisteddfod Genedlaethol fod cau'r system wedi bod yn gam "rhagofalus" a'u bod wedi darparu dŵr ar gyfer pobl ar y maes a'r maes carafanau.

Ychwanegodd fod newidiadau i ansawdd y dŵr yn gallu digwydd "ar safleoedd adeiladu cymhleth fel meysydd yr Eisteddfod".

Image
Dwr yfed

Dywedodd llefarydd ar ran Cyngor Sir Ceredigion yn gynharach ddydd Gwener: "Diogelwch y cyhoedd yw ein prif flaenoriaeth ac mae’n hynod o bwysig i weithredu’n ofalus ac yn drylwyr wrth baratoi’r maes."

Pan mae digwyddiadau fel yr Eisteddfod yn cael eu cynnal, mae rhwydwaith dros-dro yn cael ei chreu i ddarparu dŵr ar gyfer digwyddiadau o'r math.

Pwysleisiodd llefarydd ar ran Dŵr Cymru nad oedd problem ehangach gydag ansawdd y dŵr yn ardal Tregaron ac mai mater i system breifat yr Eisteddfod oedd hyn.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.